Rhif y ddeiseb: P-06-1277

Teitl y ddeiseb: Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol

Geiriad y ddeiseb:

Mae symud gofal allan o'r sir yn rhoi oedolion a plant sydd mewn perygl o ganlyniadau gwael neu farwolaeth hyd yn oed.  Mae'n gwastraffu amser hollbwysig pan nad yw amser ar ein hochr ni.

Mae gennym 125,000 o drigolion a miliynau o dwristiaid. Bydd israddio’r gwasanaeth yn golygu bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn peryglu eu bywydau yn fwriadol.  Rhaid pwysleisio ein bod yn sir wledig, eang, gyda ffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwael. Purfa, gweithfeydd nwy, porthladdoedd fferi, maes tanio, chwaraeon eithafol, ynghyd ag un o'r proffesiynau mwyaf peryglus: ffermio.

Mae’n bosibl y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn awgrymu nad yw’r “Awr Aur” yn berthnasol bellach, gydag ambiwlansys â gwell offer a staff sydd wedi’u hyfforddi’n well, ond mae hynny’n dibynnu ar fod ambiwlans ar gael i helpu a rhoi’r gofal hwnnw ar unwaith.  Mae hyn yn digwydd llai a llai, gydag ambiwlansys yn methu ag ymddangos gan eu bod yn cael eu hanfon allan o’r sir, yn methu â dadlwytho ac yn methu â dychwelyd i’r sir, i roi’r cymorth sydd ei angen.

·         Mae’n deimlad ofnadwy gwybod, os yw ein perthnasau neu ein plant yn cael pwl o asthma sy’n peryglu bywyd, pwl o epilepsi, neu broblem arall lle mae amser yn hollbwysig, fod y cynlluniau newydd yn golygu eu bod yn annhebygol o gael cymorth a goroesi.

·         Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dweud na fydd yn gwarantu y byddai gofal brys yn aros yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg hyd nes (ac os) bydd adeilad newydd ar waith!!!  Mae hynny'n annerbyniol.

·         Dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymrwymo i bolisïau recriwtio trwyadl er mwyn sicrhau bod staff llawn yn cynnig gofal brys yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.

·         Rydym wedi colli ffydd ac ymddiriedaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac nid ydym yn credu ei fod yn gweithio er lles gorau Sir Benfro.

Noder: Mae’r ddeiseb hon wedi casglu dros 10,000 o lofnodion.


1.        Cefndir

1.1.            Patrwm presennol gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yn cael eu darparu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, mewn tri ysbyty sydd wedi’u lleoli o fewn ardal y Bwrdd Iechyd:

§  Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, sydd hefyd yn cynnwys uned mân anafiadau sydd ar agor rhwng 08.00 a 22.30, 7 diwrnod yr wythnos;

§  Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, sydd hefyd yn cynnig gwasanaeth mân anafiadau rhwng 08.00 a 20.00, 7 diwrnod yr wythnos;

§  Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, sydd hefyd yn cynnig gwasanaeth mân anafiadau rhwng 08.00 a 20.00, 7 diwrnod yr wythnos.

Mae plant sy’n sâl yn cael eu gweld yn Ysbyty Glangwili, lle mae yna Adran Achosion Brys a gwasanaethau ysbyty i blant sydd wedi'u cydleoli. Mae gwasanaethau mân anafiadau yn cael eu darparu hefyd mewn ysbytai yn Llanelli, Llanymddyfri, Aberteifi a Dinbych-y-pysgod.

1.2.          Cynigion ar gyfer ffurf gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yn y dyfodol

Mae ffurf arfaethedig gwasanaethau gofal iechyd yn ardal Hywel Dda yn y dyfodol yn deillio o ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2018, sef ‘Trawsnewid ein Gwasanaeth Iechyd'. Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, cytunodd y Bwrdd Iechyd ar y strategaeth Canolbarth a Gorllewin Iachach: Cenedlaethau'r dyfodol yn byw bywydau iach’, mewn cyfarfod Bwrdd ar 29 Tachwedd 2018.

Mae elfennau allweddol y cynlluniau a nodir yn 'Canolbarth a gorllewin iachach' yn cynnwys:

§  Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi'i Gynllunio newydd, rhywle rhwng Arberth a Sanclêr, a fydd yn darparu gofal wedi’i gynllunio a gofal brys. Bydd yr ysbyty yn gweithredu fel Uned Drawma a phrif Adran Achosion Brys y bwrdd iechyd.

§  Ail-bwrpasu neu ailadeiladu Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili, gan gynnwys unedau mân anafiadau dan arweiniad meddygon teulu, gofal ar yr un diwrnod, a gwelyau ar gyfer cleifion nad oes angen iddynt fod mewn lleoliad acíwt ond mae angen cymorth arnynt;

§  Gwella a moderneiddio Ysbyty Bronglais ac Ysbyty Tywysog Philip. Bydd Ysbyty Bronglais yn parhau i ddarparu gofal brys aciwt a gofal wedi'i gynllunio, a bydd Ysbyty Tywysog Philip yn parhau i ddarparu gwasanaethau mân anafiadau dan arweiniad meddygon teulu, yn ogystal â gofal meddygol acíwt i oedolion, gwelyau dros nos dan arweiniad ymgynghorwyr a chymorth diagnostig.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi rhestr o Gwestiynau Cyffredin ar gyfer strategaeth 'Canolbarth a gorllewin iachach', sy'n nodi'r rhesymeg sy’n sail i’r cynigion i symud gofal brys o Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili i'r ysbyty newydd. Mae’r Cwestiynau Cyffredin hefyd yn egluro sut mae'r bwrdd iechyd yn bwriadu mynd i'r afael â phryderon ynglŷn â mynediad a diogelwch cleifion.

Yn ogystal, mae’r Cwestiynau Cyffredin yn amlinellu'r sefyllfa bresennol o ran yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd, gan gynnwys y wybodaeth a ganlyn:

§  Lansiwyd cyfnod ymgysylltu o chwe wythnos ym mis Mai 2021, er mwyn nodi safleoedd addas yn y parth dan sylw (rhwng Sanclêr ac Arberth). Roedd y broses honno’n cynnwys nodi materion a phryderon cyhoeddus y bydd angen mynd i'r afael â hwy wrth bennu’r safle a ffefrir;

§  Yn dilyn adolygiad technegol a gweithdy a gynhaliwyd ym mis Hydref 2021, lluniwyd rhestr fer yn cynnwys pum safle posibl. Nid oes unrhyw dir wedi’i brynu, a disgwylir i’r broses ddod i ben yn nhymor yr haf 2022, pan fydd argymhelliad yn cael ei wneud i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd y bwrdd iechyd yn cael cyngor pellach ynghylch a fydd angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn y broses hon.

1.3.          Amserlen ar gyfer cyflawni'r strategaeth

Mae’r bwrdd iechyd bellach wedi cytuno ar achos busnes rhaglen ac wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Nod y ddogfen hon yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo’r rhaglen ac yn cefnogi cyllid ar gyfer gwaith manylach, gan arwain yn y pendraw at fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn y seilwaith a’r adeiladau y bydd eu hangen i gyflawni strategaeth 'Canolbarth a gorllewin iachach'.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi datgan na fydd yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn agor tan o leiaf ddiwedd 2029. Serch hynny, mae’r bwrdd iechyd yn nodi yn ei restr o Gwestiynau Cyffredin:“…os oes cyllid ar gael, rydym am ddarparu’r datblygiadau hyn cyn yr ysbyty newydd.” Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn nodi:

Nid yw ein cynlluniau’n cynnwys cau unrhyw un o’n gwasanaethau argyfwng a gofal brys presennol cyn cytuno ar unrhyw ddewisiadau amgen newydd, megis ysbyty newydd, a’u rhoi ar waith.

Ar yr un pryd, rydym yn wynebu pwysau digynsail, gan gynnwys ein hymateb i’r pandemig COVID-19 a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar ein staffio a sut y gallwn ddarparu gofal yn ddiogel.  Bydd ein clinigwyr a’n rheolwyr yn parhau i wneud penderfyniadau gweithredol ac ymateb i amgylchiadau newidiol bob dydd er mwyn sicrhau y gallwn drin ein cleifion yn ddiogel. Yn y cyd-destun hwn mae'n anodd iawn gwneud gwarantau absoliwt ond ein bwriad yw cadw'r adrannau damweiniau ac achosion brys presennol ar agor cyn yr ysbyty newydd.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.